Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 11 Hydref 2021

Amser: 13.30 - 15.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12449


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Rhys ab Owen AS

Jayne Bryant AS

Peter Fox AS

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Sara Moran (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(6)055 - Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn drafft a derbyniodd ei adroddiad drafft.

</AI3>

<AI4>

2.2   SL(6)057 - Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn drafft a derbyniodd ei adroddiad drafft.

</AI4>

<AI5>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI5>

<AI6>

3.1   SL(6)061 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.2   SL(6)056 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi’i dynnu’n ôl a’i ail-osod, ac y byddai’n ystyried fersiwn ddiwygiedig o’r offeryn yn y cyfarfod nesaf.

</AI7>

<AI8>

3.3   SL(6)058 – Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2021

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI9>

<AI10>

4.1   SL(6)052 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI10>

<AI11>

5       Is-ddeddfwriaeth sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI11>

<AI12>

5.1   SL(6)059 - Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI12>

<AI13>

5.2   SL(6)060 - Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Cynnydd

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI13>

<AI14>

6       Papurau i’w nodi

</AI14>

<AI15>

6.1   Adroddiad Llywodraeth Cymru: Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws

Nododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig ac adroddiad Llywodraeth Cymru.

</AI15>

<AI16>

6.2   Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Adroddiad blynyddol ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ac adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Nododd y Pwyllgor hefyd fod trafodaethau yn parhau rhwng swyddogion i sefydlu cytundeb newydd ar gyfer y Chweched Senedd ac y bydd manylion pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.

</AI16>

<AI17>

6.3   Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) 2021

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI17>

<AI18>

6.4   Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â’r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

</AI18>

<AI19>

6.5   Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi: Cytundeb rhyngwladol - Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Ia, Liechtenstein a Norwy

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi.

</AI19>

<AI20>

6.6   Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Nododd y Pwyllgor ymateb Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurder pellach ynghylch yr ymateb i rai o’i argymhellion.

</AI20>

<AI21>

6.7   Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cydsyniad i wneud Gorchymyn o dan adran 104 o Ddeddf yr Alban 1998

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

</AI21>

<AI22>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI22>

<AI23>

8       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - trafod yr adroddiad drafft.

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

</AI23>

<AI24>

9       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth a Dyfeisio Blaengar a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

</AI24>

<AI25>

10    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd i gwblhau'r adroddiad y tu allan i’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

</AI25>

<AI26>

11    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) - trafod yr adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

</AI26>

<AI27>

12    Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Adeiladau

Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladu a chytunodd i wahodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi tystiolaeth mewn perthynas â’r Memoranda, ac mewn perthynas â’r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

</AI27>

<AI28>

13    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI28>

<AI29>

14    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI29>

<AI30>

15    Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 4 Hydref 2021 - trafod yr adroddiad drafft

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2021, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi ar Prif Weinidog at ei adroddiad.  Nododd y Pwyllgor hefyd y llythyr gan y Prif Weinidog ar ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol, a chytunodd i’w rannu gyda’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

</AI30>

<AI31>

16    Dull strategol cylch gwaith a blaenraglen waith y Pwyllgor

Cytunodd y Pwyllgor ar ei amcanion strategol a’i flaenraglen waith ar gyfer y misoedd i ddod.

</AI31>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>